Sign up to access all features of our service.
  • Job search
  • Favorites
  • Create a CV
    New
  • Salaries
  • Subscriptions

Swyddog Cymorth Addysgol

£26.08k per annum
Temporary

Amdanom ni

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled Abertawe a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr blaenllaw iawn yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Mae’r Coleg hefyd yn cynnig darpariaeth lles staff o’r radd flaenaf, sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein staff gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi.

Y rôl

Ydych chi'n angerddol am gefnogi myfyrwyr a gwneud gwahaniaeth ym myd addysg? Rydym yn chwilio am Swyddogion Cymorth Addysg brwdfrydig i lenwi nifer o swyddi ar draws shifftiau amrywiol, gan gynnig cyfleoedd hyblyg i helpu dysgwyr i ffynnu.

  • Yn ystod y tymor (36 wythnos y flwyddyn)
  • Rhan-amser (18 awr yr wythnos)
  • Cytundeb cyfnod penodol tan 31 Awst 2027
  • £13.52 yr awr
  • Campws Tycoch, Abertawe

Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal yn gynnar neu ganol mis Medi. Gwahoddir ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer i fynychu sesiwn flasu neu sesiwn rhagolwg o'r swydd (sy'n ddewisol) ar ddiwrnod eu cyfweliad, gan roi cyfle iddynt gael cipolwg ar y rôl a'r amgylchedd gwaith.

Prif Gyfrifoldebau

  • Darparu cymorth addysgol, emosiynol, cymdeithasol a phersonol i fyfyrwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Cymryd rhan yn y ddarpariaeth o raglenni dysgu a'i chefnogi, yn unol â chyfarwyddiadau'r darlithwyr
  • Cynorthwyo gyda thrin a symud myfyrwyr sydd ag anghenion gofal personol, yn unol â'r cynllun gofal unigol

Amdanoch chi

  • Mae pasio TGAU mewn Mathemateg a Saesneg (graddau A-C) neu gymhwyster cyfatebol yn ddymunol
  • Sgiliau TG sylfaenol, h.y. gallu defnyddio cyfrifiadur, a bod yn gyfarwydd â Microsoft Word a'r Rhyngrwyd
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o anghenion myfyrwyr ag anawsterau dysgu
  • Gallu gweithio gyda phobl ag anawsterau dysgu, gan gynnwys cynorthwyo gyda gofal personol.

Buddion

  • 28 diwrnod (pro rata) o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2025).
  • 2 ddiwrnod lles i staff bob blwyddyn
  • Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion:

Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau.

Gwybodaeth Bellach

  • Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai y byddwn newid y dyddiad cau. Felly, awgrymir ichi gyflwyno cais yn gynnar.
  • Cyflog Amser Llawn: £26,084 y flwyddyn

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion waeth beth fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anableddau, cyfeiriadedd rhwyiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gredoau. Rydym yn croesawu hefyd geisiadau gan unigolion mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein sefydliad.

Yr Iaith Gymraeg

I wneud cais yn y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog pobl i gwblhau cais trwy gyfrwng y Gymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog, fel y gallwn ehangu ein gweithlu dwyieithog. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Diogelu

Mae Coleg Gwyr Abertawe’n ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Rhaid i bob aelod o staff gydymffurfio â hyn. Bydd penodiadau’n amodol ar wiriadau cyn-gyflogaeth, gan gynnwys:

  • Gwiriad DBS manylach, gan gynnwys Rhestrau Gwaharddedig (£49.50)
  • Cofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru, lle bo angen (£15 - £45 yn dibynnu ar y rôl).
Vacancy posted 20 days ago
Similar jobs that could be interesting for youBased on the Swyddog Cymorth Addysgol in Swansea vacancy
  • £14.08k per annum

     ...Cynorthwywyr Cymorth Dysgu (3 swydd) Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae... 
    Suggested

    Gower College Swansea

    Swansea
    27 days ago
  • £19.08 - £22.19 per hour

     ...gyda staff y gyfadran, y tîm Profiad a Lles Dysgwyr a gwasanaethau cymorth perthnasol. ~ Rhan-amser (30 awr yr wythnos) ~ Cyfnod Penodol...  ...ôl-gofrestredig, gan gynnwys profiad o weithio mewn amgylchedd addysgol. Profiad o weithio gyda phobl ifanc a darparu rhaglenni... 
    Suggested

    Gower College Swansea

    Swansea
    29 days ago
  • £26.08k per annum

     ...yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref. Y Rôl Darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol cynhwysfawr i Swyddfa'r Gyfadran, wedi'i lleoli yng Ngorseinon, ac o bosibl i gefnogi gweinyddiaeth yn ein campws Llwyn Y... 
    Suggested

    Gower College Swansea

    Swansea
    22 days ago
  • £19.06k - £20.75k per annum

     ...~ Disgowntiau ar gostau cwrs os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg. ~ Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: Angen cymorth gyda’ch cais? Cliciwch yma i weld ein canllawiau. Gwybodaeth Bellach Os derbynnir llawer o geisiadau ar gyfer y rôl hon, efallai... 
    Suggested
    Full-time

    Gower College Swansea

    Swansea
    25 days ago
  • £25.58k per annum

     ...Version Yn falch o wasanaethu. Yn falch o gynnal cyfiawnder. Mae ein Swyddogion Gweinyddol yn chwarae rôl hollbwysig, gan ddarparu cymorth gweinyddol a gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog i ddefnyddwyr llys, y farnwriaeth a rheolwyr. Amdanom ni Mae Gwasanaeth Llysoedd... 
    Suggested
    Job sharing
    Full-time
    Temporary
    Part-time
    Fixed-term contract
    Hybrid working
    Skilled worker visa
    On-site
    Flexible hours
    Rotating shifts

    Ministry of Justice UK

    Swansea
    20 days ago

Do you want to receive more vacancies?

Subscribe and receive similar vacancies to Swyddog Cymorth Addysgol. Be the first to apply!